![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 24 Chwefror 1797 ![]() |
Rhan o | War of the First Coalition ![]() |
Dechreuwyd | 22 Chwefror 1797 ![]() |
Daeth i ben | 24 Chwefror 1797 ![]() |
Lleoliad | Abergwaun ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Teyrnas Prydain Fawr ![]() |
Ymgais gan Weriniaeth Gyntaf Ffrainc i oresgyn Teyrnas Prydain Fawr yn ystod Rhyfel y Glymblaid Gyntaf oedd Brwydr Abergwaun neu Laniad y Ffrancod. Hwn oedd y goresgyniad diwethaf gan lu milwrol ar dir mawr Prydain. Roedd yr ymosodiad wedi'i ddyfeisio gan cadlywydd Ffrengig Lazare Hoche ac roedd tair rhan iddo, gyda'r prif ymosodiad yn cefnogi Cymdeitha y Gwyddelod Unedig, ond oherwydd y tywydd un ddigwyddodd, sef yr ymosodiad ar Abergwaun. Lladdwyd ac anafwyd 33, daliwyd 1,360 yn garcharorion a dwy long.[1][2]
Ar 22 Chwefror 1797 glaniodd 600 o filwyr rheolaidd ac 800 o gyn-garcharorion o Ffrainc yng Ngharregwastad, Pen-caer, ger Abergwaun yn Sir Benfro, dan arweiniad William Tate, Americanwr o dras Wyddelig. Cludwyd hwy yno mewn pedair llong. Ysbeiliodd y Ffrancod ffermdai cyfagos a chanfod cyflenwad o win a'i yfed. Ildiodd y llu a phentyrru eu harfau ar draeth Wdig ar 24 Chwefror.[3]
Aeth John Campbell, barwn cyntaf Cawdor rhagddo i gasglu oddeutu 500 o filwyr-wrth-gefn a bu sgarmes neu nau rhwng milwyr y ddwy wlad ar 23 Chwefror. Erbyn drennydd roedd Tate wedi ildio; meddiannodd Cambell a'i griw hefyd dwy long Ffrengig ond llwyddodd Castagnier i ddychwelyd i Ffrainc.
Arwres y dydd oedd merch o'r enw Jemima Nicholas, a ddaliodd 12 o filwyr Ffrengig ar ei liwt ei hun, gyda dim ond fforch. Mewn adroddiad ysgrifenedig ar 25 Chwefror, nodir i'r Ffrancod gredu mai milwr oedd merched y pentref, oherwydd eu hetiau traddodiadol, cantel lydan ac mai gynnau oedd y ffynn yn eu dwylo.[4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search